Gwirio Ar-Lein

Gwirio Ar-lein

Yr unig lwyfan dysgu personol sy’n seiliedig ar y cwmwl sydd ar gael yn y DU ar hyn o bryd.

Ffôn: 01752 938059
e-bost: info@efirst.org.uk

Rhestrau Gwirio Dysgu Ar-lein

Gwirio Arlein yw’r unig lwyfan sy’n cynnwys rhestrau gwirio dysgu personol fel elfen graidd:

  • Gall rhestrau gwirio, yn seiliedig ar brosiectau neu wybodaeth, gael eu haddasu yn llwyr ar gyfer unrhyw bwnc neu unrhyw gyfnod allweddol.
  • Gall rhestrau gwirio fod yn draws-gwricwlaidd. Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer cyflwyno adroddiadau yn erbyn fframweithiau cenedlaethol megis y FfLlRh/FfCD Gymraeg.
  • Mae myfyrwyr yn asesu eu cynnydd yn y fformat C,M,G (coch,melyn,gwyrdd) cyfarwydd o unrhyw ddyfais ar unrhyw adeg.
  • Gall athrawon wirio fod rhestr wirio disgrifyddion wedi’i bodloni.
  • Mae’r defnydd a wnaed o’r rhestrau gwirio yn cael ei stampio efo’r dyddiad fel tystiolaeth o welliant dros amser.
  • Gall y platfform ddadansoddi rhestrau gwirio dysgu ar gyfer grwp addysgu ac amlygu gwendidau cyffredin ar gyfer addysg sydd wei’i dargedu.
  • Mae adrodd uwch yn caniatau i arweinwyr ysgolion ddadansoddi rhestrau gwirio a chynnydd ar gyfer unrhyw bwnc, dosbarth neu grwp blwyddyn.
  • Gellir cofnodi tystiolaeth yn erbyn rhestrau gwirio dysgu.
Image
Image

Gwaith Cartref Ysgol Ac Aseiniadau

Mae Gwirio Ar-lein hefyd yn ateb gwaith cartref a ellir ei gyflwyno ar ffurf electronig neu ar bapur. Mae gwaith cartref, mewn gwirionedd, yn rhan o swyddogaeth aseiniadau hyblyg, gyda gwelededd llawn i rieni, tiwtoriaid ac arweinwyr ysgol. Gall aseiniadau gynnwys:

  • gwaith cartref
  • gwaith cwrs
  • paratoi ar gyfer profion cenedlaethol darllen a rhifedd
  • hen bapurau
  • ffug arholiadau
  • profi ar-lein
  • profi ymaddasol
Image